Mae ymweliadau monitor yn un o swyddogaethau craidd y Cynghorau Iechyd Cymuned ac yn rhoi i ni gwybodaeth hanfodol am y gofal mae cleifion yn ei dderbyn, ac am ansawdd y wardiau, clinigau a lleoliadau eraill lle y darperir gofal.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned bob amser yr hawl statudol i ymweld ag ysbytai a chlinigau, ac mae ganddynt yr awdurdod i gynnwys sefydliadau gofal sylfaenol lle mae gwasanaethau GIG yn cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys meddygfeydd meddygon teulu, deintyddfeydd, optegwyr, fferyllwyr a chartrefi nyrsio.
Yn ogystal â'r ymweliadau monitro a drefnwyd, gall grŵp o aelodau cael eu galw ar fyr rybudd i wneud ymweliad Ymateb Cynnar a allai fod wedi deillio o bryderon a gafwyd am agweddau ar driniaeth, gofal neu amgylchedd.
Cysondeb, effeithlonrwydd a sensitifrwydd yn ffactorau pwysig wrth gynnal ymweliadau monitro ac mae rhaid i’r aelodau ymgymryd â hyfforddiant a derbyn unrhyw gyfarwyddyd sy'n ofynnol i'w cynorthwyo yn rhinwedd y swydd hon.
Gweithgaredd Craffu CIC: 2019-2020 | Gweithgaredd Craffu CIC: 2020 - 21 |
Os hoffech gopi o unrhyw Adroddiad a nodir ar y Wefan, cysylltwch â Swyddfa’r CIC lle bydd aelod o staff yn barod i’ch helpu
A oes unrhyw wasanaethau GIG e.e. ysbytai, adrannau neu feddygon teulu yn ardal Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Pen-y-bont ar Ogwr yr hoffech i ni ymweld â nhw? Os felly, rhowch wybod i ni
DS. Oherwydd y pandemig Coronafeirws a'r newidiadau i arferion gwaith, does dim ymweliadau fel rhan o'n swyddogaeth Monitro a Chraffu yn digwydd ar hyn o bryd.
Cyngor Iechyd Cymuned, Cwm Taf Morgannwg, Tŷ Antur, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN Ffôn:01443 405830
E-bost: enquiries.ctmchc@waleschc.org.uk
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi