2. A yw'r GIG yn gwella ar ôl COVID a beth mae wedi'i olygu i chi?
Rydym wedi bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang am beth amser. Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd yw hi i bawb - ac yn arbennig i bobl sydd yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.
Os ydych chi'n derbyn gofal y GIG ar hyn o bryd, ac os ydych chi angen neu'n defnyddio gwasanaethau'r GIG yn rheolaidd efallai eich bod chi'n teimlo'n bryderus.
Fel eich cyrff gwarchod celifion GIG, mae CICau dros Gymru am barhau i chwarae ein rhan wrth adlewyrchu barn pobl a chynrychioli eich diddordebau yn y GIG ar yr adeg dyngedfennol hon.
Byddwn yn rhannu gyda'r GIG yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym. Mae hyn er mwyn iddynt allu gweld beth mae pobl yn meddwl sy'n gweithio'n dda a gweithredu i wella gofal lle mae angen hyn - cyn gynted ag y mae'n bosibl gwneud hynny.
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg, Tŷ Antur, Parc Navigation, Abercynon, CF45 4SN Ffôn:01443 405830
E-bost: enquiries.ctmchc@waleschc.org.uk
Mae Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi